P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Gymunedol Bodffordd, ar ôl casglu 5,125 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Galwn ar y Llywodraeth i gymryd camau i sicrhau y bydd awdurdodau lleol yn dilyn canllawiau'r cod trefniadaeth ysgolion presennol a'r cod newydd (pan ddaw i rym) gan gynnwys gweithredu'n unol â'r rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig. Derbyniwn nad yw hyn yn golygu na chaiff ysgol wledig byth ei chau, ond mae penderfyniad diweddar Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn i gau ysgol Bodffordd yn dangos bod rhwydd hynt i awdurdodau lleol anwybyddu'r cod newydd (y maent i fod i weithredu yn unol â'i ysbryd) a chau hyd yn oed ysgolion poblogaidd a llawn.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Ynys Mon
· Gogledd Cymru